Traditional
Sosban Fach
Mae bys Meri-Ann wedi brifo
A Dafydd y gwas ddim yn iach
Mae'r baban yn y crud yn crio
A'r gath wedi sgrapo Joni bach
Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi sgrapo Joni bach

Dai bach y soldiwr
Dai bach y soldiwr
Dai bach y soldiwr
A chwt ei grys e mas

Mae bys Meri-Ann wedi gwella
A Dafydd y gwas yn ei fedd;
Mae'r baban yn y crud wedi tyfu
A'r gath wedi huno mewn hedd
Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi huno mewn hedd

Dai bach y sowldiwr
Dai bach y sowldiwr
Dai bach y sowldiwr
A chwt ei grys e mas
Aeth hen Fari Jones i Ffair y Caerau
I brynu set o lestri de;
Ond mynd i'r ffos aeth Mari gyda'i llestri
Trwy yfed gormod lawer iawn o "de"
Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi huno mewn hedd