Traditional
Dacw ’Nghariad
[Verse 1:]
Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan
Tw rym di ro rym di radl didl dal
O na bawn i yno fy hunan
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Dacw'r tŷ, a dacw'r 'sgubor;
Dacw ddrws y beudy'n agor

[Refrain:]
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal
Tw rym di ro rym di radl didl dal

[Verse 2:]
Dacw’r dderwen wych ganghennog
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Golwg arni sydd dra serchog
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Mi arhosaf yn ei chysgod
Nes daw 'nghariad i 'ngyfarfod

[Refrain:]
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal
Tw rym di ro rym di radl didl dal

[Verse 3:]
Dacw'r delyn, dacw'r tannau
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Beth wyf gwell, heb neb i'w chwarae
Tw rym di ro rym di radl didl dal
Dacw'r feinwen hoenus fanwl
Beth wyf well heb gael ei meddwl
[Refrain:]
Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal
Tw rym di ro rym di radl didl dalWerde Teil der Genius-Deutschland-Community!