Gruff Rhys
Ôl Bys / Nodau Clust (Muzi Remix)
Ôl bys, nodau clust
Cyfri’n eiriau Iesu Grist
Mewnbynnaf fy mhen mewn i wal
Camera cryf sy’n fy nal

Ôl bys (x4)

Sanctaidd yw dy air
Cyfrinach yw dy gyfrinair
[?] yn yr hydref poeth
Brawddeg hirach fasa’n ddoeth
Priflythyren ag ambell rif
I gryfhau grym dy rigwm cudd

Ôl bys, nodau clust
Cyfri’n eiriau Iesu Grist
Mewnbynnaf fy mhen mewn i wal
Drosodd a throsodd tan y wawr

Ôl bys (x4)

Yn gyfrinachol dan gysgod llaw
Byseddaf fotymau a’r trysor ddaw
Neu ambell ddiwrnod dim ond braw
Taw, taw, taw, taw
Ôl bys, nodau clust
Cyfri’n eiriau Iesu Grist
Mewnbynnaf fy mhen mewn i wal
Drosodd a throsodd tan y wawr

Byw ar y cyfryngau
Yn fyw ar y cyfryngau
Yn gaeth i’r cyfrwng
Y ffôn, y bwrlwm

Ôl bys, nodau clust
Cyfri’n eiriau Iesu Grist
Mewnbynnaf fy mhen mewn i wal
Camera cryf sy’n fy nal

Ôl bys (x8)