Genius Translations
Eminem - Rap God (Cyfieithiad Cymraeg)
[Intro:]
“Shgwla, o’n i am drin ti’n ysgafn am bido brifo twmlade ti.”
“Ond dyma’r unig siawns fydda i’n ga’l.”
“Ma rywbeth o’i le, wi’n gallu twmlo fe.”
Chwech munud. Chwech munud. Chwech munud, Slim Shady, tro ti!
“Rhyw dwmlad sy da fi – na gyd. Fel bo rywbeth ar fin digwydd, ond sa i’n gwbo be. Os bo hyn yn feddwl be wi’n credu, ŷn ni miwn trwbwl, trwbwl mowr; ac os bo hwnna'n gyment o ynfytyn â dwedi di, sa i’n cymryd unrhyw siawns.”
“Yn gwmws be argymhellodd y meddyg ŷt ti.”

[Cytgan:]
Dychre twmlo fel Duw rap, Duw rap yn codi ’to
Ma mhobol i gyd o’r bla’n i’r cefn yn nodio, nodio
Nawr, prun sy’n credu bo breichie fe gyhyd am baffio-cernodio, cernodio?
Os bo fi’n rapio fel robot, gall Rap-bot yn fy nynodi, sbo

[Pennill 1:]
I rapio fel cyfrifiadur, rhaid iddi fod yng ngennyne i
Ma da fi liniadur ym mhoced gefen i
A pin sgwennu o fewn drwch blewyn o ffynhonni
Ges i bres bras mas o’r blas ar rapio fel hynny
Des i hyd i fudd a llofrudd oddi arni
Er pan o’dd Bill Clinton miwn swydd yn ei Dŷ Gwyn e
Yn cael anwesu ei geillie gan Monica Lewinsky ar ei glinie
MC mor onest dw i o hyd
Ond mor anfoesog ac anniwair â'r holl uffern i gyd
Sillafe ffwrdd-â-hi (lladda nhw da'r)
Hip-hop ffflit-fflat, chwit-chwat ma
Ti rîli ddim moyn cymryd rhan mewn cystadlu pisho
Da’r cythraul bach rapio ’ma, sy’n paco MAC yng nghist yr Ac’
Yn malu cachu rap cnapsach grwgnach
A chwap wi'n ceisio prancie a campie geiriol gan ymarfer am bido bod yn rhy lac
I allu lluchio ryw ford, myn yffach
Ar gefen cwpwl o gadi ffans a torri ddi'n racs
O'n i heb ddyall yr eironi o'r enw Aftermath tan yn hwyrach
Fyddwn i ffowndro neu ffrwydro? dim ond geirie 'Ff' alla i'n bwrw
Newch chi dwmlo'n ymosodiad crac, sy
I rapwyr yn ca'l amser drwg y mish, yn dod â clwt Macsi
Ma pethe’n ofnadw o wael i’r rhai ishel-radd
Tra bo fi’n crefftio’n feistriolgar yr orchest ’ma fel
[Cytgan:]
Dychre twmlo fel Duw rap, Duw rap yn codi ’to
Ma mhobol i gyd o’r bla’n i’r cefn yn nodio, nodio
Nawr, prun sy’n credu bo breichie fe gyhyd am baffio-cernodio, cernodio?
Na i ddangos taw ddim yn anodd di cadw’r cach ’ma flodio, flodio

[Pennill 2:]
Ma pob un yn moyn yr allwedd a dirgelwch anfarwoleth miwn rap fel yr hyn sy da fi. Wel, dyma’r wir lasbrint
Dim ond cynddaredd a gorawen ieuenctid
Ma pawb yn caru cefnogi un sy’n creu helynt
Nes i daro’r ddaear fel rhyw asteroid
Dim ond anelu at y lleuad mod i'n neud ers hynny (Piw!)
Ma MCs yn ca’l eu danfon nôl i’r ysgol da’r gerddorieth ’ma
Chos bo ddi’n gerbyd i mi dorri’r odle fel "bws da rhain"
Nawr ysgol newydd wi’n arwain, yn llawn myfyrwyr
Finne? Cynnyrch dw i o Rakim
Lakim Shabazz, 2Pac, N.W.A., Cube, shwmai Doc, Ren
Yella, Eazy, diolch, naethon nhw sbrydoli Slim
Yn ddigon i dyfu lan ryw dydd, i ffrwydro a bod mewn sefyllfa
I gwrdd â Run-D.M.C., a cyflwyno nhw
I Oriel yr Enwogion Roc a Rôl, diawch erio'd
Er i dim ond i mi fynd miwn eglws fydda i'n ffrwydro miwn tân
Dim ond i Oriel y Meddwogion fydda inne'n ca'l dderbyn
Ar fur y cywilydd
Chi’r cadi ffans yn credu taw gêm yw hi gyd, nes i mi wacio Flocka Flame
I ben draw planc, a gwed tho i, am be yffach ti’n feddwl amdano?
Boi bach hoyw dy olwg
Mor hoyw wi ffili weud e da wyneb strêt, yw dy olwg
Rwyt ti’n dyst i gyflafan
Fel gwylio cyfarfod eglws yn ca’l ei gynnal, yw dy olwg
“Bobol y Bala, hogyn hoyw sy fama!” – ebe nhw, yw dy olwg
Fe gei di fodiau lan, pat ar gefen ti
A “chwarae teg” wrtho label ti bob dydd, yw dy olwg
Shgwl, yw dy olwg! Be ti’n weud, yw dy olwg?
Wi’n siŵr o gael “ie, myn uffarn” oddi ar Dre, yw dy olwg
Na i witho am bopeth bo fi'n ga'l, heb byth ofyn am ddim byd
Cer mas o’n wyneb i, yw dy olwg!
Yn y bôn, bach, fyddi di bob amser ffili
Cadw lan da’n cyflymder i, yw dy olwg, ’chos bo fi'n…
[Cytgan:]
Dychre twmlo fel Duw rap, Duw rap blysgar
Ma mhobol i gyd o’r bla’n i’r cefn yn nodio ar wasgar
Y ffor wi’n rasio rownd y trac, galwa fi’n NASCAR, NASCAR
Dale Earnhardt y parc trelyrs, Duw y Sbwriel Gwyn
Penliniwch o fla’n Zod y Cadfridog
Krypton di’r blaned ’ma – nace, Asgard, Asgard

[Pennill 3:]
So, Thor fyddi di, ac inne’n Odin
Lygoden, o fla'n dy oruchaf, ar dy linie!
Wi’n tanio, wedyn ail-lwytho a pelenne
Ac yn syth at y bomie wi'n cludo'n 'yn becynne
A ddylwn i bido ca'l yn deffro
Fel y meirw byw wi’n cerdded, ond dim ond pen yn siarad, sombi'n twyllo ange
Ond wi’n hala fam ti i sugno pidynne
Wi off fy nŵdl ramen i
Do’s da ni ddim byd yn gyffredin, y pŵdl anghymen ti
Dwi’n Doberman, pinsha fraich ti a tala barch, ddisgybyl
Fi sy ma, ma’n onestrwydd fi'n ddidostur
Ond pwy iws i fe os bo fi heb iwso'r cwbwl
I'r gwell, o leia unweth miwn chydig
So, wi am sicrhau yn rywle yn yr olion traed ieir ma bo fi'n sgriblo a dwdlo digonedd o odle
Am falle trial helpu rhai i ddod drwy amser y gwyllion
Ond ma rhaid i mi roid hibo rhai gnewyllion
Rhag ofan, chos bo chi’r rapwyr heb gontract nag enillion
Eto’n syllu arna i’n newynog yn gobeth o weddillion
Wi’n gwbo taw ers talwm ro’n inne’n
Arfer bod yn frenin yn y sîn tanddaearol
Ond wi wastad yn rapio fel pan o’n i’n snapio wrth sodle Pharaohe Monch
So wi’n dal ati ddadle da odle, ond pan ti’n gosodi
Dengarwch at y lliw sy ar yn gro’n i
Ti’n dod yn ry fawr a dyma’n nhw’n trallodi
Sensro di, fel da'r yr un llinell na
Wedes i ar ‘Fi Sy Nôl’ o’r Mathers LP 1 pan nes i fentro
Byddwn i’n ca'l saith cryts o Columbine, eu dodi
Miwn un rheng, atodi rhyw AK-47, rifolfer a pistol naw
Gwela os bydda i’n ca’l neud ny nawr bo fi ddim mor fawr ag o’n i, ond yn dod i
Fodoli'n un o'r anfarwolion, drwy byrth y nefolion
Rwyt ti’n sownd miwn ystumdro dwy fil pedwar
A sa i’n gwbo pam yffach ti’n dal ati i odli
Rwyt ti o gyment o iws â Rapwnsel da affro gwatwar
Ti’n sgwennu’n normal? Stwffia ‘normal’, myn uffern i!
A wi newydd brynu gwn pelydr o’r dyfodol
Dim ond i ddod i saethu ti, fel pan na’th Fabolous wylltio Ray J
Am fod Ffab di galw fe'n gadi ffan yn gytre Mayweather, wrth weld ei wedd e
Yn cyflwyno cân ar y piano i ryw ŵr wrth ei sedd e
Mam bach, sbesial yr wthnos y sianel gêbl o’dd honno!
So fe a’th Ray J yn syth i’r orsaf radio
Y dydd nesa, “Shgwl, Ffab, wi’n mynd i ladd di, co!”
Geirie’n dod atoch chi ar gyflymder uwchsonig (J.J. Fad)
A sama lama dwma lama, ŷt ti’n tybio taw o’r dynol ryw dw i
Be sy angen neud iddi ddod drwodd i ti bo fi’n oruwchddynol?
Yn arloeswr, di neud mas o rybar, fel bo popeth rwyt ti’n weud yn adlamu oddi arna i ac yn clymu i ti a
Mwy nag erio’d o’r bla’n, wi’n dangos heb arafu
Shwt i beri i gynulleidfa gredu bo nhw’n ymddyrchafu
Sdim diwedd ar 'yn haf fi, a wn i bo’r casawyr byth yn craffu
I fi gwmpo di'n anafu, yna cân nhw ddathlu
Chos wi’n nabod y ddolen i sbrodoli
Cerddorieth orchfygol sy da fi, cerddorieth archfarchnad sy da ti
“O, ma fe’n rhy prif lif.”
Wel, dyna be ma’n nhw’n neud pan bo nhw’n eiddigus, mae’n nhw’n ca'l drysu
“Nace hip-hop, ond pop,” – am bo da fi yffach o ffor o gyplysu ddi
Da roc, da rap sioc gan Doc
Towla mla’n “Colla Dy Hunan” a ma’n nhw’n colli ddi am bo fi sy’n tywysu
“Wn i ddim shwt i neud y fath ganeuon
Wn i ddim pwy eirie sy angen.”
Wel, gad i fi wbod pryd fydd da ti syniad
Caiff unrhyw un o’r penillion ma beri i ti gryniad
Ma di canu arnat ti, ti’n ca’l lo’s heb run pwniad
Sawl pennill llofruddiedig fydd hi’n gymryd
I arbrofi i ti taw os o't ti’n hanner mor hyfryd
 fi yn ganeuon ti, gaet ti aberthu gwyryfon hefyd?
Ach, was bach, mas o’r ysgol, jynci i pils, myn yffach i
Shgwla ar yr acolâds ma sgilie fi di bachu
Llond bol o’n hunan, ond eto’n newynog am flas
Wi’n bwlio’n hunan chos wi fforso’n hunan i neud yn gore glas
A wi’n filiwn o ligie o fla’n di yn y ras
Nei di alaru pan fydda i’n llefaru â thafode, ond ma dafod fi mewn boch o hyd, pen pidyn, cer i grafu!
Wi’n feddw, felly, Satan, cymer y ffycin llyw, was
Fi fydd yn mynd i gysgu yn y sedd fla’n
O hyd yn crancio lan y bâs ar Heavy D And The Boyz, eto “Boliog ond Hwyliog”
Ond ym mhen i ma rywbeth wi’n gallu dwmlo’n tynnu, cyferbynnu
Mae angylion yn ymladd â diawled a danfon yr alwad
I mi ga’l gwared ar damed o’r gwrageddgas
Ond dim ond i ti ystyried chwerwder y casineb
Sy da fi, o bosib fyddet ti'n fwy amyneddgar
Yn fwy dyner tuag at fy ystyr
A dyall y rhagfarn sy'n ymddangos mor treisgar
Ond o's ffycin ots? Pan ddaw’r bywyd â lemwne, na lemonêd de!
Ond os bo fi ddim yn ca’l maeddu’r merched
Shwt yffach dw i i bobi iddyn nhw gacen ar archeb?
Paid gymysgu e da Satan, fydde hynny’n dychrineb
Os ŷt ti’n meddwl bo angen mynd dramor ar wylie
I mi faglu ddi, a hala ddi i gwmpo ar ei wyneb
Paid bod yn dwp! Bod yn frenin? Sa i’n credu, clyw
Pam fod yn frenin pan rwyt ti’n gallu bod yn dduw?